Ynni i'r dyfodol.

Ynni Cynaliadwy

Preifatrwydd

Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. yn casglu gwybodaeth cwsmeriaid er mwyn cyfathrebu ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Rydym yn casglu gwybodaeth gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad e-bost a ddarparwch wrth gysylltu â ni drwy'r wefan hon. Rydym hefyd yn monitro defnydd o'r safle a phatrymau traffig i wella dyluniad ein gwefan a'r cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigiwn. Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. yn cydnabod fod yn rhaid iddo gynnal a defnyddio gwybodaeth cwsmeriaid yn gyfrifol.

Ni fydd Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. yn rhentu na gwerthu eich cyfeiriad e-bost am unrhyw reswm. Fe gawn ddatgelu gwybodaeth amdanoch i aelodau eraill teulu corfforaethol Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. ac fel sy'n ofynnol dan gyfraith.
Drwy gofrestru eich gwybodaeth gyda ni, rydych yn rhoi caniatâd i Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. anfon gohebiaeth ynghylch y wefan a gwasanaethau i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych. Gallwch dynnu eich cyfeiriad e-bost o'n rhestr ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio'r dolenni yn yr e-byst a anfonwn atoch. Rhowch eich cyfeiriad e-bost os gwelwch yn dda ynghyd â'ch enw llawn a byddwn yn eich tynnu oddi ar ein rhestr bostio.

Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. yn cydymffurfio â'r safonau, y gweithdrefnau a'r gofynion a nodir yn y Ddeddf Diogelu Data.

Cwcis

Ffeil ddata fechan yw cwci a gaiff ei storio dros dro gan eich porwr ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae gwefan Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. yn defnyddio nifer o gwcis i weithredu a chasglu gwybodaeth farchnata ar defnydd o'r wefan.

Ymwelwyr â'n gwefannau

Pan fydd rhywun yn ymweld â www.hitachi-hgne-uk-abwr.co.uk byddwn yn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr.  Gwnawn hyn i ganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o'r safle.  Casglwn y wybodaeth hon mewn ffordd sydd ddim yn nodi pwy yw unrhyw un.  Nid ydym yn gwneud unrhyw ymdrech i ganfod pwy sy'n ymweld â'n gwefan (www.hitachi-hgne-uk-abwr.co.uk).  Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o'r safle hwn gydag unrhyw wybodaeth sy'n nodi pwy yw rhywun o unrhyw ffynhonnell.  Os nad ydym eisiau casglu gwybodaeth a all ddatgelu pwy yw rhywun yn bersonol drwy ein gwefan, byddwn yn onest am hynny.  Byddwn yn datgan hyn yn glir wrth gasglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro beth y bwriadwn ei wneud â hi.

Y defnydd o Gwcis gan Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd.

Ffeiliau testun bychain yw Cwcis a roddir ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ymwelwch â hwy.  Fe'u defnyddir yn eang i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.

Mae'r tabl isod yn egluro'r cwcis a ddefnyddiwn a pham:


Cookie

Name

Purpose

More information

Google Analytics

_utma
_utmb
_utmc
_utmz

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut y mae ymwelwyr yn defnyddio'n safle.  Defnyddiwn y wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu ni wella'r safle.  Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r safle, o ble y daeth ymwelwyr â'r safle a'r tudalennau yr ymwelwyd â hwy.

Cliciwch yma am olwg gyffredinol ar breifatrwydd Google

Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. Preference site cookie acceptance

m4cookiebar

Mae'r cwci hwn yn cuddio'r bar hysbysu cwci, dim byd arall. Fe'i defnyddir i storio'ch hoffter o'r safle hwn. Bydd storio'ch hoffter yn barhaol yn atal y bar cwci rhag ymddangos ond ni fydd yn effeithio ar eich gallu i ddefnyddio'r safle.

Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. Mobile view cookie

view_mode

Yn cofio hoffter defnyddwyr symudol o edrych ar safle pen desg yn lle'r safle symudol.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatau peth rheolaeth ar y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau'r porwr.  I ganfod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis a osodwyd a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.

I eithrio allan o gael eich olrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan ewch i https://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Cwcis YouTube

Rydym yn plannu fideos o'n sianel swyddogol YouTube a all osod cwcis ar eich cyfrifiadur pan gliciwch ar chwaraewr fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio sy'n galluogi adnabod pwy yw rhywun ar gyfer chwarae fideos a blannwyd.  I ganfod mwy ewch i dudalen plannu gwybodaeth YouTube.

Dolenni

Lle ceir dolenni o wefan Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd., mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. yn pwysleisio nad oes ganddo reolaeth dros y safleoedd hyn, eu cynnwys na'r ffordd y maent yn casglu neu'n defnyddio data personol. Os byddwch yn dilyn dolenni i safleoedd eraill o'n gwefan bydd eich data yn ddarostyngedig i polisïau preifatrwydd y safleoedd hynny. Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. felly'n cynghori'n gryf y dylai defnyddwyr wirio polisi preifatrwydd unrhyw safle y maent yn ymweld ag ef.

Sut i gyrraedd atom

Ein rhif ffôn a'n manylion cysylltu e-bost yw:
For the address, please change to:
Hitachi GE Nuclear Energy Ltd.
c/o Hitachi Europe Limited, Nuclear Power Group
Whitebrook Park
Lower Cookham Road
Maidenhead
SL6 8YA

Registered in England No 2210686
Tel +44 1628 585000
Fax +44 1628 585180

Bwydlen