Telerau Defnyddio
Mae’r wefan hon yn cael ei gweithredu gan Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, ystyrir fod pob cwsmer wedi cytuno â'r amodau defnyddio. Yn ogystal, gallai’r amodau defnyddio gael eu newid fel bo’r achos. Cadarnhewch y cynnwys diweddaraf os gwelwch yn dda.
Mae’r wefan hon wedi’i chysylltu â gwefannau eraill ar wahân i’n rhai ni. I ddefnyddio’r gwefannau hynny, mae’n ofynnol hefyd i gytuno â’r amodau defnyddio a restrir ym mhob gwefan, felly rhaid cymryd sylw.
Hawlfraint
Caniateir gwneud copïau caled o’r cynnwys (brawddegau, graffiau, darluniau a lluniau) yn y wefan hon i ddiben darllen yn eich sefydliad yn unig heb wneud elw, mewn achosion lle y nodir ein hawlfraint ac na nodir fod dyblygu’n cael ei wahardd. Ac eithrio yn yr achos uchod, nid yw’r wefan hon yn caniatáu unrhyw hawliau seiliedig ar hawliau eiddo deallusol megis hawlfreintiau, patentau, hawliau nod masnach ac eraill. Fodd bynnag, mewn achos lle caiff yr amodau defnyddio eu nodi ar wahân mewn cynnwys unigol, neu mewn achosion lle y mae cynnwys unigol yn gysylltiedig â’r cynnwys sy’n nodi’r amodau defnyddio, rhoddir blaenoriaeth i’r amodau cysylltiedig.
Brawddegau a’u cynnwys
Nid yw ein cwmni yn gwarantu unrhyw beth o gwbl ynghylch brawddegau a’u cynnwys yn y wefan hon. Hyd yn oed os yw brawddegau ar y wefan hon yn cynnwys camgymeriadau, nid yw ein cwmni ni yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl. Yn ogystal, gallai’r materion a ddisgrifir yn y wefan hon gael eu newid heb rybudd blaenorol, felly derbyniwch hyn ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Dyddiad cyhoeddi a’r cynnwys
Y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yw’r un ar y dyddiad cyhoeddi. Gallai gael ei newid yn dilyn y diwrnod cyhoeddi, fel bo’r achos, felly derbyniwch hyn ymlaen llaw os gwelwch yn dda.