Perfformiad amgylcheddol a rheoli gwastraff ABWR y DU
Mae ynni niwclear yn chwarae rôl allweddol yn y frwydr i leihau allyriadau carbon y byd, ac mae cylch bywyd cyfan ABWR y DU (o’i adeiladu i’w ddatgomisiynu) yn cynhyrchu symiau isel iawn o garbon deuocsid (CO2) am bob awr Cilowat o ynni a gynhyrchir.
Mae ABWR y DU wedi cael ei asesu’n fanwl gan y rheoleiddwyr niwclear drwy gydol ei oes (GDA, adeiladu, gweithredu a datgomisiynu) a bydd yn parhau felly, er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â disgwyliadau’r DU o ran rheoli’r defnydd o adnoddau naturiol (megis defnyddio dŵr oeri) a lleihau ei effaith gyffredinol ar yr amgylchedd o’i gwmpas.
Mae dyluniad ABWR y DU wedi esblygu dros flynyddoedd lawer i leihau maint y deunydd a fydd yn y pen draw yn cael ei drin fel gwastraff, ac mae wedi ymgorffori technolegau blaengar i osgoi effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd o’i gwmpas. Yr egwyddor o ddangos bod ABWR y DU yn defnyddio’r “Dechnoleg Orau Sydd Ar Gael” sydd wrth galon rheoleiddio yn y DU.
Mae pob adweithydd niwclear cyfredol yn cynhyrchu rhyw fath o wastraff ymbelydrol. Gall y gwastraff hwn fod yn beryglus os na chaiff ei reoli’n gywir; fodd bynnag, gyda’r systemau a’r prosesau technegol cywir, gellir ei reoli’n ddiogel. Mae gan y DU bron i 60 mlynedd o brofiad o reoli gwastraff yn ddiogel, ac arbenigedd sylweddol. Mae gan Lywodraeth y DU bolisi clir ar reoli gwastraff o orsafoedd pŵer niwclear, gyda chyfnod o storio’n ddiogel ar y safle, a ddilynir gan drosglwyddo gwastraff i Gyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) canolog yn y DU.
Fel pob technoleg niwclear, bydd ABWR y DU yn cynhyrchu tanwydd wedi’i ddefnyddio (hen danwydd), ond caiff ei reoli’n ddiogel yn unol â safonau’r DU. Fel dyluniad modern, mae ABWR y DU yn cynhyrchu llawer llai o hen danwydd na mathau blaenorol o adweithyddion niwclear. Cyflwynwyd manylion helaeth gennym am ein dull o weithredu gyda rheoli hen danwydd yn y GDA ac mae hwn ar gael drwy gyfrwng tudalen y ‘Llyfrgell’ ar y wefan hon, ac felly hefyd asesiad tafladwyedd gan y Gyfarwyddiaeth Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWMD) yn yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). Yn yr un modd, bydd cynlluniau manwl ar gyfer rheolaeth dros dro ar hen danwydd ar y safle’n cael eu hasesu o fewn caniatadau penodol i’r safle.