Diogelwch yr Adweithydd
Diogelwch yw’r brif flaenoriaeth yn nyluniad yr ABWR. Mae gan bŵer niwclear record ddiogelwch ragorol yn y DU ac mae’n parhau i weithredu ar draws 8 safle yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Mae’r rhan fwyaf o orsafoedd niwclear yn gweithredu’n ddiogel drwy gydol degawdau lawer o gynhyrchu. Fodd bynnag, mae digwyddiadau fel Fukushima yn 2011, yn ddealladwy iawn, yn rhoi ffocws manwl ar ddiogelwch. Mae ABWR y DU yn bodloni meini prawf diogelwch rhyngwladol sydd wedi’u hen sefydlu ac yn cynnwys nodweddion cynhwysfawr i sicrhau diogelwch bob amser, yn ystod gweithredu arferol a than ystod o amodau damwain posib, o fân-ddigwyddiadau i ddigwyddiadau eithafol. Roedd y nodweddion hyn yn un o’r meysydd allweddol a ystyriwyd o dan yr Asesiad Dyluniad Generig, ac mae’r cynllun wedi cael ei fireinio ymhellach o ganlyniad.
Mae manylion llawn am asesiadau diogelwch ABWR y DU drwy’r GDA ar gael ar dudalen ‘Llyfrgell’ y wefan hon.
Darllenwch fwy am fesurau diogelwch ABWR y DU, damweiniau difrifol a gwersi a ddysgwyd o Fukushima.
Mae nodweddion diogelwch ABWR y DU yn seiliedig ar ddull gweithredu Dyfnder o Amddiffyniad neu ‘fesurau diangen’. Mae hyn yn sicrhau bod sawl haen o ddiogelwch, gyda phob haen wedi’i llunio i sicrhau diogelwch yn annibynnol ar ei gilydd.
Mae tri cham hanfodol er mwyn sicrhau a chynnal sefyllfa ddiogel wrth gau i lawr yn ystod ac yn dilyn argyfwng:
- Cau'r adweithyddion sydd ar waith a therfynu’r adwaith niwclear yn effeithiol.
- Oeri’r adweithyddion (sy’n cyrraedd tymheredd uchel wrth weithredu), a dal i oeri’r tanwydd a fydd yn parhau i gynhyrchu gwres ar gyfradd is ar ôl cau i lawr, oherwydd lefelau uchel yr ymbelydredd sy’n bresennol yn y tanwydd.
- Sicrhau cyfyngiant parhaus ar ymbelydredd.
Gwnaed gwelliannau pellach i ddyluniad yr adweithydd gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o ddamwain Fukushima ym mis Mawrth 2011, gan ganolbwyntio’n benodol ar atal colli pŵer yn llwyr ar y safle (Blacowt Llwyr yn yr Orsaf) a cholli pob opsiwn oeri (a elwir yn Suddiad Gwres Eithaf).
Cau adweithyddion sydd ar waith
Os bydd angen cau i lawr mewn argyfwng, caiff Rhodenni Rheoli eu gwthio’n syth i mewn yn hydrolig i’r adweithydd gan nitrogen ar wasgedd uchel, gan ei gau i lawr. Fel system wrth gefn, gall dŵr wedi’i hydreiddio â boron (dŵr wedi’i foradu) gael ei chwistrellu’n uniongyrchol ar graidd yr adweithydd gan y System Rheoli Hylif Wrth Gefn, sy’n atal yr adwaith ymhollti.
Oeri adweithyddion
Wrth weithredu’n arferol, caiff craidd ABWR y DU ei oeri gan yr un cylchrediad dŵr ag sy’n digwydd i wneud i stêm droi’r tyrbin. I sicrhau oeri parhaus, boed wrth weithredu neu wrth gau i lawr, mae’n bwysig bod â chyflenwadau dŵr diogel, a phŵer i’r pympiau gylchredeg y dŵr hwn drwy’r adweithydd. Os collir oeri, caiff Systemau Oeri’r Craidd mewn Argyfwng eu gweithredu i chwistrellu oerydd i’r adweithydd. Mae pob cydran actif yn cael eu gyrru gan ffynonellau pŵer mewn argyfwng sydd ar gael hyd yn oed os collir pŵer oddi ar y safle.
Mae gan ABWR y DU ystod o opsiynau chwistrellu dŵr, ac os collir oeri arferol, gellir oeri’r adweithydd gan ddefnyddio pympiau cludadwy y gellir eu cludo i’r safle o storfa offer gerllaw y bydd gweithredwr y safle'n ei chynnal. Ceir hefyd opsiynau niferus ar gyfer pweru’r systemau oeri, gan gynnwys ffynonellau pŵer wrth gefn wedi’u hamgáu mewn adeiladau a ddiogelir rhag llifogydd, a’r gallu i redeg oddi ar ffynonellau pŵer eraill. Mae’r systemau oeri hyn hefyd yn darparu cefnogaeth i barhau i oeri’r Pwll Storio Hen Danwydd (SFSP) sy’n cadw’r hen danwydd mewn cyflwr diogel.
Rheoli deunyddiau ymbelydrol
Mae gan ABWR y DU haenau niferus i ddal a rheoli deunyddiau ymbelydrol. Lluniwyd y rhain i sicrhau, os ceir digwyddiad, y caiff pob deunydd peryglus posib ei gynnwys yn ffisegol o fewn adeilad yr adweithydd.
Y tanwydd a ddefnyddir yn yr ABWR yw tanwydd wraniwm deuocsid coeth a wnaed o ddeunydd tebyg i cerameg. Mae’r rhan fwyaf o’r ymbelydredd yn aros wedi’i gloi o fewn y deunydd ceramig hwn yn ystod y gweithredu. Cynhwysir y deunydd tanwydd o fewn cynwysyddion â chladin metel o ansawdd uchel na fyddant yn gollwng yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, hyd yn oed yn dilyn damwain. Mae’r ABWR yn defnyddio un o’r dyluniadau tanwydd mwyaf blaengar yn y byd, a ddatblygwyd gyda 50 mlynedd o brofiad a gwelliannau gweithredu, ac mae wedi’i beiriannu i’r ansawdd uchaf. Yna gosodir y cynwysyddion tanwydd y tu mewn i rwystrau niferus, a’r cyntaf o’r rhain yw'r Cynhwysydd Gwasgedd Adweithydd (RPV).
Mae’r Cynhwysydd Gwasgedd Adweithydd ei hun yn llestr dur wedi’i weldio, a luniwyd i wrthsefyll tymheredd a gwasgedd eithriadol uchel, ymhell tu hwnt i weithrediad arferol yr adweithydd.
Fe’i cynhwysir o fewn Cynhwysydd Concrid Cyfnerthedig (RCCV). Os digwydd i ddeunyddiau peryglus gael eu rhyddhau o’r RPV, sy’n annhebygol iawn, byddant yn cael eu cadw o fewn yr RCCV a ddim yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd ehangach. Mae’r RCCV yn cynnwys leinin dur y tu mewn i strwythur concrid cyfnerthedig, a luniwyd i wrthsefyll ffactorau allanol megis gwasgedd, gwres a difrod eithriadol.
Mae’r RCCV ei hun y tu mewn i adeilad yr adweithydd, gan ddarparu trydydd rhwystr rhwng yr ymbelydredd a’r amgylchedd y tu allan.
Ochr yn ochr â’r meysydd allweddol hyn, ceir nifer eang o gyfleusterau hyblyg ac effeithiol i helpu i sicrhau y gweithredir yn ddiogel.
Gwersi a ddysgwyd yn dilyn Fukushima
Mae ABWR y DU wedi cael budd o ddatblygiad parhaus pob cenhedlaeth o BWR drwy wella dyluniad a’r profiad gweithredu helaeth a gafwyd yn Japan ac yn rhyngwladol.
Mae hyn wedi arwain at welliannau yn nhermau diogelwch, agweddau amgylcheddol, diogeledd a pherfformiad gweithredol.
Yn dilyn y digwyddiadau yng Ngorsaf Pŵer Niwclear Fukushima Dai'ichi, mae’r offer gweithredu presennol wedi bod yn destun proses fanwl o werthuso i gadarnhau gwytnwch y dyluniad yn erbyn digwyddiadau eithafol (cyfeirir at hyn yn rhyngwladol fel Profion Pwysau). Mae’r gwersi a ddysgwyd o’r gwerthusiad hwn wedi arwain at welliannau pellach i orsafoedd presennol ac mae’r gwersi hyn a ddysgwyd hefyd wedi arwain at rai gwelliannau ychwanegol o ran dyluniad i'w hystyried ar gyfer ABWR y DU.
Mae’r bygythiadau hyn wedi cael eu hasesu ymhellach drwy gydol y GDA ac roedd bodloni’r rheoleiddwyr ynghylch gallu’r gwaith i wrthsefyll bygythiadau o'r fath yn anghenraid i dderbyn DAC a SoDA.
Mae tudalen y ‘Llyfrgell’ ar y wefan hon yn darparu manylion helaeth am y mesurau sydd yn eu lle i warchod rhag peryglon o’r fath, ynghyd â dolen at yr adroddiadau asesu sydd wedi’u cyhoeddi gan y rheoleiddwyr.
Mae’r mesurau sydd wedi’u hamlinellu yn y dogfennau hyn yn cynnwys dull o gysylltu ffynonellau pŵer allanol a dŵr oeri allanol i adeilad yr adweithydd. Mae’r rhain yn sicrhau bod posib cynnal yr oeri ar gyfer yr adweithydd a’r Pwll Storio Hen Danwydd gan roi sicrwydd pellach yn erbyn Blacowt Llwyr yr Orsaf (SBO) a Cholli Suddiad Gwres Eithaf (LUHS).