Ynni i'r dyfodol.

Ynni glân, diogel

Hanes a phrofiad yr adweithydd

Bu Hitachi-GE yn rhan o raglen datblygu’r ABWR o’r dechrau, gan gydweithredu ag amrywiol bartneriaid ledled y byd a chyda chefnogaeth gan gwmnïau pŵer gyda phrofiad o weithredu gorsafoedd BWR. Erbyn hyn mae pedair uned weithredol wedi’u hadeiladu ar dri safle yn Japan (Kashiwazaki-Kariwa, Shika, Hamaoka) ac mae’r ABWR wrthi'n cael ei adeiladu yn Shimane ac Ohma yn Japan. Mae wedi derbyn cymeradwyaethau rheoleiddiol yn UDA a Taiwan hefyd.

Drwy gydol datblygiad technoleg y BWR, mae Hitachi-GE ac eraill wedi canolbwyntio ar broses o esblygu, datblygu adweithyddion un ar ôl y llall gyda manteision gweithredol, diogelwch ac economaidd uwch na’r modelau blaenorol. Yr ABWR yw’r adweithydd niwclear Cenhedlaeth III+ mwyaf sefydledig yn y byd.

Ar y tri safle yn Japan, mae’r ABWR hefyd wedi cael ei ddatblygu ar amser ac o fewn y gyllideb - profiad y gellir adeiladu arno ar gyfer datblygu yn y DU. 

Ar ôl cwblhau'r GDA – a datblygu ABWR y DU - mae Hitachi-GE yn edrych ymlaen at weld y dechnoleg yn cael ei defnyddio yn y DU gan Bŵer Niwclear Horizon.

ABWR 1af, 2il Kashiwazaki-Kariwa 6& 7(C/O:1996,1997) Ffynhonnell: Tokyo Electric Power Co., Inc.
ABWR 1af, 2il Kashiwazaki-Kariwa 6&7
(C/O:1996,1997)
Ffynhonnell: Tokyo Electric Power Co., Inc.
3rd ABWR Hamaoka
3ydd ABWR Hamaoka 5
(C/O:2005)
4th ABWR Shika
4ydd ABWR Shika 2
(C/O:2006)
1st, 2nd ABWRs Kashiwazaki-Kariwa
5ed ABWR Shimane 3
(Wrthi'n cael ei adeiladu)
6th ABWR Ohma
6ed ABWR Ohma 1
(Wrthi'n cael ei adeiladu)
7th ABWR Higashidori
7fed ABWR Higashidori 1
(Wrthi'n cael ei adeiladu) Cyfeirnod
Bwydlen