ABWR y DU yn ei gyfanrwydd
Mae’n bwysig cofio bod llawer o’r dechnoleg mewn gorsaf pŵer niwclear yn debyg i’r hyn a welir ar safle unrhyw orsaf pŵer glo neu nwy, a’i fod y tu allan i adeilad y prif adweithydd. Mae’r map isod yn dangos cynllun gorsaf ac yn tynnu sylw at rai agweddau ar ABWR y DU sydd y tu allan i graidd yr adweithydd.
Bydd cynlluniau penodol ar gyfer safleoedd fel Wylfa Newydd yn cael eu datblygu gan weithredwyr yn y dyfodol yn ystod caniatadau penodol i'r safle - ac yn cael eu hasesu ymhellach gan reoleiddwyr y DU.
- Adeilad Gweithredu mewn Argyfwng
1. Adeilad Gweithredu mewn Argyfwng
- Safle Cerbydau
2. Safle Cerbydau
- Adeiladau Wrth Gefn
3. Adeiladau Wrth Gefn
- Swyddfa Weinyddol
- Adeilad Gwasanaeth
5. Adeilad Gwasanaeth
- Adeilad yr Adweithydd
6. Adeilad yr Adweithydd
Mae gan adweithyddion niwclear o wahanol ddyluniadau gydrannau a strwythurau gwahanol. Mae'r llun uchod yn dangos y tu mewn i adeilad adweithydd ABWR.
• Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Adeilad yr Adweithydd. - Adeilad Gwastraff Ymbelydrol
7. Adeilad Gwastraff Ymbelydrol
- Adeilad Tyrbinau
8. Adeilad Tyrbinau
Tyrbinau Stêm HitachiTyrbin ABWR 50Hz TC6F-52
Mae Tyrbinau Stêm Hitachi ar flaen y gad o ran darparu technoleg tyrbinau modern, hynod effeithlon i fusnesau cynhyrchu trydan y byd. Mae Tyrbinau Stêm Hitachi yn cynnwys llawer o nodweddion uwch megis llafnau hir perfformiad uchel, technolegau lleihau colledion ac yn cynnig y technolegau tyrbin diweddaraf o ran cynhyrchu pŵer confensiynol, megis yr Amodau 'Ultra Super Critical Steam' (Pwysedd stêm o 25MPa a thymheredd Stêm ar 600°C/620°C)
I weld mwy o fanylion am adeilad cliciwch y dolenni gwyrdd tywyll yn y rhestr neu'r rhif cyfatebol yn y darlun o'r adeiladau uchod.
Am fanylion manylach ar yr adweithydd ewch i dudalen adeilad yr adweithydd.